Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Y LLWYN BANADL[1]

Y FUN well ei llun a'i lliw
Na'r iarlles ŵn o'r eurlliw,
Gwn ddeu-chwedl, gwae na ddichon
Gael oed dydd, a gweled hon.
Nid rhydd im anturio i ddwyn
Liw dydd at leuad addwyn;
Duw ni myn, dinam wyneb,
Dwyn brad nos dan bared neb,
Nid oedd i ddiwladeidd-was
Goed i gael oed o fedw glas.

Duw i mi a'm dyn diell
A roes goed, un eurwisg well;
Gwiail cystal y gauaf
A dail hoew fel adail haf.
Gwnaf yno, i hudo hon,
Glôs o fanadl glâs-feinion,
Modd gwnaeth, saerniaeth serch,
Myrddin dŷ gwydr am ordderch;
Ar Ddyfed yr addefynt
Y bu len gêl o'r blaen gynt,
Yr awron, dan yr irwydd,
Fy llys i felly a fydd.
O daw bun i dy, y bo
Iarlles wen i'r llys yno,
Mae iddi, a mi a'i mawl,
Oes, baradwys ysbrydawl,—
Coed wedi eilio pob cainc,
Cynddail o wiail ieuainc.

Pan ddêl Mai, a'i lifrai las,
Ar irddail i roi'r urddas,
Aur a dyf ar edafedd
Ar y llwyn, er mwyn a'i medd.


  1. Amheuaeth gryf mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A183