Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Teg yw'r pren, a gwyrenig
Y tyf yr aur tew o'i frig;
Aur gawod ar y gwiail
Duw a roes, difai yw'r dail.
Bid llawen, gwen, bod llwyn gwŷdd
O baradwys i brydydd;
Blodau gorau a garwn,
Barrug haf ydyw brig hwn.
Dal y ty, a'i adeilad da,
Yr wyf o aur Arafia;
Pebyll Naf o'r ffufafen,
Brethyn aur, brith yw ei nen;
Angel mwyn yng ngwely Mai,
O baradwys, a'i brodiai;
Gwawn yn aur gwanwyn eres,
Gloyn nod Duw, gleiniau tes;
Gwynfyd mewn gwinllan bryd bron
Gael euro gwiail irion,
A'u brig yn goedwig a gaid,
Fel yn ser fwliwns euraid ;
Felly caf, fal lliw cyfan,
Flodau'r Mai fel adar mân.

Gorllwyn y llwyn a'r llannerch,
Arfer mwyn, yr wyf er merch ;
Daw f' amod, nid af ymaith
O'r llwyn fry a'r eurllen fraith ;
O chaf hyd haf, yn oed dydd,
Y dyn eurwallt dan irwydd ;
Deled, lle ni'n didolir,
Dyn fain dlos dan fanadl ir.