Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhinwyllt fydd, a rhy anwar,
Rhyfel ag oerfel a gâr.
O chlyw fod cadorfod tyn,
Brwydr yng ngwlad Ffrainc, neu Brydyn,
Antur gwrdd, hwnt ar gerdded,
Yn wr rhwydd, yno y rhed.
O daw, pei rhon', a dianc
Oddiyno, er ffrwyno Ffranc,
Creithiog fydd, seuthydd a'i sathr,
A chreulon ddyn wych rylathr.
Mwy y car y drym-bar draw
A'i gledd, gwae a goel iddaw,
A mael dur, ac aml darian,
A march o lu, na merch lân.
Ni'th gel pan ddel poen ddolef,
Ni'th gais eithr i drais o'r dref.

Minnau, a'r geiriau gorhoew,
Pe'th gawn, liw eglur-wawn gloew,
Da gwn, trwsiwn wawd trasyth,
Degle ferch, dy gelu fyth.
Pe rhoen' im gael gafael gaeth,
Deifr un hoen, dwy frenhiniaeth,
Deune'r haul, nid awn er hyn,
Wyth-liw dydd, o'th loew dyddyn.