Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A bair trist-wlaw, a byr-ddydd,
A gwynt yn yspeiliaw gwŷdd;
A niwl gwyn yn ael y gwynt,
Yn diffriw canol dyffrynt;
Ac awyr dremled led-oer,
A'i lliw yn gorchuddiaw'r lloer;
A'u pair yn llawn o anwyd,
A'r nant yn llifeiriant llwyd;
A dwyn son mewn afonydd,
A llidiaw a duaw dydd;
Allesgedd breuolwedd braw,
A llaes-glog a chenllysg-wlaw—
Dêl iddaw, rhyw addaw rhwydd,
Deuddrwg am ei wladeiddrwydd.