Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
MORFUDD.

YN DDIEITHR O SERCH, AC ANWADAL.

Y FUN o Eithinfynydd,
F'enaid teg, ni fyn oed dydd.
Feinion aeliau, fwyn olwg,
Fanwallt aur, fy anwyllt wg,
Fy ngwynfyd rhag trymfryd tranc,
Fy nuwies addfwyn ieuanc,
Fy nrych, llewych mewn lliwaur,
Fy rhan yw, fy rhiain aur,
Fy swllt dan fwtres elltydd,
Fy serch ar hon fwy-fwy sydd.
Fy nillyn mwynwyn manwallt,
Fy nghrair ni chair yn ochr allt.

Ni chyrch hon goed y fron fry,
Ni châr a'i câr, ni chwery.
Ni chair Morfudd i chwarae:
Na chair, caru Mair y mae
A charu'r saint gwych hoyw-rym
A charu Duw,—ni chred im.

Ni wyr gwen, un oriog yw,
Nid edwyn mo'r oed ydwy;
Ni adwaeniad odineb,
Ni fynnai 'nyn fi na neb;
Ni fynnwn innau, f'anwyl,
Fyw oni chawn fun wych wŷl.
Am hynny darfu ymboeni.
Morfudd fwyn, marw fyddaf fi.