Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwra wnaeth gwen gymhen-gall
Gwiriwyd hi'n wraig i arall.

"Taw! Na'm gwator am forwyn
Y llais ni chredaf i'm llwyn;
E'm rhoddes liw tes lw teg,
Ni chawn gan unferch chwaneg,
Llw a chred, myn y bedydd,
I mi dan ganghenau gwydd;
A rhwymaw llaw yn y llwyn
Yn ddiddig a'i bardd addwyn,
Myn Mair, a bu'n offeiriad
Madog Benfras, mydrwas mad."

"Ynfyd y'th clywaf, Ddafydd,
Yn awr yn siarad dan wŷdd;
Gwrhaodd ferch a serchud,
Anhirion fu hon i'w hud;
Ni chai Forfudd werydd wen,
Y fun eglur fynygl-wen;
Rhyfyg it garu hoew-fun,
Y Bwa Bach biau bun."

"Am a genaist i'm gwanu,
Yma'n y gwŷdd am wen gu,
Deled it ddyddiau gauaf,
A throi'r haul, a threio'r haf.
A rhew yn dew ar y dail,
A gwyaw coed a gwiail;
A'th ladd gan oerfel i'th lwyn,
Edn ynfyd, a'th dôn anfwyn."