Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
YMDDIDDAN A BRAWD DU.

A GYNGHORASAI'R BARDD I YMWRTHOD A MORFUDD.

YNA cefais druth atcas
Gan y brawd a'r genau bras,
Yn ceisio, nid cyswllt rhwydd,
Fy llygru â'i haerllugrwydd.
Llyma fal y cynghores
Y brawd a'r prudd dafawd pres,—

"Ystyr, pan welych y dyn,
Ebrwydd yr a yn briddyn;
Yn ddilys yr a ei ddelw
Yn y pridd yn ddielw."

“Cyd el y dywarchan ffloch
Yn bridd hagr, y brawd dugoch,
Nid a llewyrch cnawd mirain,
Pryd balch, ond yn lliw'r calch cain."

"Dy serch ar y ferch fein-loew,
Oreu-wallt, a'r hirwallt hoew,
Hyn a'th bair i'r pair poeth-groen,
Ac byth ni'th gair o'r pair poen."

Yna dywedais wrthaw,—
"Y brawd du ei bryd, bryf, taw!
Twrn yw anheilwng i ti
Tristhau y dyn tros Dewi;
Er dy lud a'th anudon,
A'th eiriau certh, a'th serth son,
Mefl im, o gwrthyd Dafydd,
Orai teg, ddeg yn un dydd."