Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un-llais wyf, yn lle safai,
A'r gôg, morwyn gyflog Mai;
Honno ni fedr o'i hanwyd
Eithr un llais, a'i thoryn llwyd,
Ni thaw y gog a'i chogor,
Crygu mae rhwng craig a môr,
Ni chân gywydd, lonydd lw,
Nag acen, onid "Gwcw!"

Gwys ym Mon mai gwas mynaich
Fum i, yn ormod fy maich,
Yr hwn ni wna dda ddeutrew
Lafur ond un loew-fron dew.
Dilonydd bwyll, ddidwyll ddadl,
Dilynais fel dal anadi,
Defnyddio i'w hurddo hi
Defnyddiau cerdd ddwfn erddi.

Yn iach bellach, heb allel
Na chudd am dani, na chel!
Talm fydd iddi, os tolia,
Ac o dodir ar dir da;
Adyn o'i chariad ydwyf,
Aed â gwynt, dieuawg wyf.

Pan ddel gwasgar ar esgyrn,
Angau, a'i chwarelau chwyrn
Dirfawr, a hoedl ar derfyn,
Darfod a wna dafod dyn,—
Y Drindod, cyn cydfod cwyn
Mawr ferw, Mab Mair Forwyn,
A faddeuo 'ngham dramwy;
Amen, ac ni chanaf mwy.