Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
YR YSBRYD[1]

DYW sulgwaith, dewis wylgamp,
Brynhawn hwyr, loew-lwyr lamp,
Fel yr oeddwn ar weddfyd
Mewn eglwys, baradwys bryd,
Gwiw ddeall, yn gweddiaw,
Ar Dduw nef, a'i urddau naw,
Clywn y ddaear yn barawd
Yn crynu, cyn gwenu gwawd;
Gofynnais, drud adlais dro
Byth i ddyn, beth oedd yno.

"Yn enw Mab yr Aberth,
A'r Glan Ysbryd, cyngyd certh,
Beth sydd isod yn godech
Yn y llawr dan gwr y llech?
Ai byw, ai marw garw ei gân,
Ai gŵr, a glywai'n geran?
Os dyn wyd dianawddal,
Drwg yw dy wedd, sylwedd sal.

Ysbryd marw, garw gawdd,
Bryd tybus, a'm hatebawdd.

"Aros yr wyf mewn oerni,
Yn ddrwg fy myd mewn cryd cri;
Afraid it, wr cyflwr cu,
Anwyfawl, fy nyfalu;
Bum ieuanc, ddidranc ddedryd,
A balch ymhob lle'n y byd;
A hynod yn y glod glau,
Filwr taith, fel 'rwyt tithau.
Gwelais im wallt, cwnsallt cu,
Gwinwyddawl serch gwineu-ddu,

  1. Amheuaeth gryf mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A64