Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oes deg am ei ostegion,
Ys gwir mawl, eos gwyr Mon,
Lluniwr pob deall uniawn,
A llyfr cyfraith yr iaith iawn;
Egwyddor y rhai gwiw-ddoeth.
A ffynnon cerdd, a phen coeth;
A chyweirgorn ddiorn dda,
A'i chyweirdant, Och! wyr-da.
Pwy a gân ar ei lân lyfr,
Prydydd goleuddydd liw lyfr;
Měl oedd o'i ben awen-gerdd,
Primas ac urddas y gerdd.
Ni chair son gair o gariad,
Na chân, gan ochain a nad,
Er pan aeth, alaeth olud,
Dan ei fedd i dewi 'n fud;
Ni chwardd udfardd o adfyd,
Ni bu ddigrifwch o'r byd;
Nid byw edo glân a ganai,
Nid balch ceiliog mwyalch Mai;
Ni chynnydd mewn serch annog,
Ni chân na hedydd, na chôg,
Na llinos yn agos inni,
Nag irddail yn y gerddi,
Na bronfraith, ddwbl-iaith ddyblyg,
Ni bydd wedi Gruffydd Grug;
Na choedydd, dolydd, na dail,
Na cherddi, -yn iach ir-ddail!
Tost o chwedl, gan ddyn edlaes,
Rhoi yng nghôr llawn fynor Llan Faes
Gymain, -dioer, gem a'i deurudd,—
O gerdd ag a roed i gudd.

Pwy gân, i ddyn lân o liw,
Gywydd dan hoew-wydd heddyw;