Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Y DRYCH.

Ni thybiais, ddewr-drais ddirdra,
Na bae teg f'wyneb a da
Oni syniais yn amlwg
Y drych,—a llyna un drwg.

Im y dywed, o'r diwedd,
Y drych, nad wyf wych o wedd;
Melynu am ail Enid
Y mae'r grudd, nid mawr y gwrid;
Gwydr yw'r grudd, gwedi'r gruddfan,
A chlais melynlliw achlân.
Odid na ellid ellyn
O'r trwyn hir? Pand truan hyn?
Ond diriaid fod llygaid llon
Yn dyllau terydr deillion,
A'r ffluwch bengrech ledech wyrth
Bob dyrnaid o'i said a syrth?

Lleuad las gron gwmpas graen
Llawn o hud, llun ehedfaen,
Bid freuddwyd, byd afrwydda,
Breuder yw, a brawd i'r ia;
Hadlyd liw, hudol o dlws,
Hudolion a'i hadeilws.
Ffalswr, hudolwr dulas,
Fflam fo'r drych mingam meingas!

Ni'm gwnaeth neb yn wyneb-grych,
Os gwiw coeliaw draw i'r drych,
Ond y ferch fwyn o Wynedd,
Da y gŵyr ddifwyno gwedd.