Tudalen:Gwaith Edward Richard.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Na âd i'r gau-frodyr, fy nghâr, na chyngorwyr
Disynwyr Deheudir dy hudo.

HYWEL.
Tra'r byd anwybodus tan ladron twyllodrus,
Hil Uzza ryfygus, cwn gwancus i gyd;
Iach eiriau ni charan', trwy ffydd hwy offryman Y cyfan, &c.

IWAN.
Wrth edrych a rhodio, byw'n gul a bugeilio,
Mae'r bellen heb bwyllo yn llusgo at y llwch;
Dewisach mewn dyffryn im' fath o ryw fwthyn,
Pe'i cai dyn da dyddyn dedwyddwch.

HYWEL.
Mae'n anhawdd cael unman heb nyth y Lefiathan,[1]
Sy'n achub y ddwyran yn gyfan i'w gwd;
Na osod dy lety yn agos i'r fagddu
Sy'n llyncu, gwae Gymru ! gig amrwd.

IWAN.
Ei iawn frawd o'r un fron yw'r Behemoth[1] creulon
Gwir lun eu tad Mammon, rai duon a dig,
A'u dannedd hyll allan, na ddelo dryw druan
I ran y ddau aflan ddieflig.

HYWEL.
Gan faint ydyw brynti eu dwy rwyd a'u direidi
Mae'r plentyn, heb eni, 'n ymgroesi'n y groth:
Cymered y gigfran ei llwyth o'r Lefiathan,
A'r man y bu Haman, Behemoth.


  1. 1.0 1.1 Rhyw ddau gyfreithiwr.