IWAN.
Rhowch ddiod i landdyn, a llety i gardotyn,
Anrhydedd i frenin, a gwenyn i gwch :
Cyfrenwch o'ch cyfoeth, arweiniwch yr annoeth,
Eich gwisg i was tinnoeth estynnwch.
HYWEL.
Arferu a myfyrio waith ellyll, a thwyllo
Yn rhywiog, a rhuo, a bloeddio'n wŷr blin
Mae'r bras fel bu Rhosser,[1] â chig ar ei swper,
Mae'n rhaid i'r cul arfer cawl erfin.
IWAN.
Yn ol hir ymhaeru, waith angall, a thyngu,
Trwy'r trwch a gortrechu, a gwasgu ar y gwan,
Y geiniog oedd gynneu heb lid yn ei blodau,
Fel dwr o ridillau a red allan.
HYWEL.
Nid haeach er trawsed yw'r gelyn gwargaled
Sy'n ginio rhai gweiniaid, heb arbed yn byw,
Nas gall y Gŵr gwirion, sy'n gweled y galon,
Ro'i coron uchelfron yn chwilfriw.
IWAN.
Cais bwyll ac amynedd, a disgwyl y diwedd.
Cei weled plant camwedd, er cymaint eu llu,
A'u tegwch yn gwywo, y gwir yn blaguro,
A'r to sy'n dy flino'n diflannu.
HYWEL.
O eisiau gonestrwydd is wybren, a sobrwydd,
A chariad wych arwydd o sicrwydd y saint,
Mae'n wag yr ysgubor, y maes yn ddidrysor,
A'r môr yn dygyfor digofaint.
- ↑ Rhyw leidr pen ffordd.