Tudalen:Gwaith Edward Richard.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IWAN.
Derchefi'n dra chyfion o'r gweryd i'r goron
Ond maethu'n dy ddwyfron y galon o gig,
A golchi'th bechodau yn lân ar dy liniau,
Dy glwyfau cyfadde', cei feddyg.

HYWEL.
Tro'r praidd i le dirgel, mae'n bryd i ni ymadael,
A thynnu i le tawel, tŷ'n isel tan allt:
Cawn ran o bob rhinwedd, gwnawn heno gynghanedd
Mewn gwledd o orfoledd i'r Feulallt.

IWAN.
Ni egyr yn agos un tŷ ond Nanteos,
A dal yn y cyfnos ei ddangos i ddyn,
Bob dydd yn ei blodau, un nos nid yw'n eisiau
Na moethau na chogau yn ei chegin.

HYWEL.
Yn nhŷ'r hael ei lygad mae bendith yn oestad,
A channoedd mewn cariad yn curo wrth y drws:
Am roesaw diweniaeth, llawenydd a lluniaeth,
Dros noswaith mae'm obaith ym Mabws.

IWAN.
Mae Mabws a'i meibion, gwir yw, i'r goreuon
Yn deg i'w chymdogion a'r tlodion, le tlws :
Boed heddwch a hawddfyd, lle cefais bob gwynfyd
O'm ieuenctid a'm mebyd, ym Mabws.

HYWEL.
Dedwyddwch da diddan fo'n nofio'n Llanafan,
A llety gwresoglan i'r truan a'r trist :
Gwyr enwog fel glasgoed fo'n tyfu'n y Trawsgoed,
A'u cas boed heb un droed yn bendrist.