Tudalen:Gwaith Edward Richard.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IWAN.
Ar bob rhyw berffeithrwydd daw diwedd yn ebrwydd,
Ond cyfraith yr Arglwydd i'r dedwydd wr doeth
Sydd ehang a hyfryd: na weler, f'anwylyd,
O'n bywyd un ennyd yn annoeth.

EDWARD RICHARD A'I CANT.

CAN Y BONT.

AM Bont Rhyd-fendiged mae son mawr synied,
Ar fyrr cewch ei gweled mor danbed â'r dydd,
Fel castell gwyn amlwg, goreulan i'r golwg,
Neu gadwyn i fwnwg afonydd.

Hi saif yn ei hunman, y Bont ar ddau bentan,
Yn hynod ei hunan, a llydan er lli';
Tra Banc-pen-y-bannau yn dal uwch y dolau,
A ffrydiau mewn tonnau'n mynd tani.

Gwna'r pentre' mwyn serchog, tros fyth yn gyfoethog,
Wrth ddwyn yr arianog yn llwythog i'r lle;
A phan elo'n athrist heb ddim yn ei ddwygist,
Hi helpa'r dyn didrist fynd adre'.

Os digwydd ar brydiau, fod llif dros y dolau,
A gwragedd y pentre'n eu crysau'n rhoi cri,
Geill cyfaill heb gafan, ar dwyllwch fynd allan,
Heb gwrdd ag un dafan o Deifi.

Bydd Dan yn ŵr cadarn a rhywiog i'r haearn,
Gof arfog gywirfarn i'r dafarn pan dêl,
Ar gawsai[1] lân gyson, o gerrig mwyn meinion
Yn union o'r afon i'r efel.



  1. Causeway. Cym. Llangawsai