Tudalen:Gwaith Edward Richard.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er gwneud hon yn ffyddlon, er mwyn y glân ddynion
A rheiny'n gymdogion da mwynion i mi,
Bydd Ned o'r dre' druan, ar fyrder mewn graean,
A llawer awff trwstan eiff trosti.

Gwyr Gwnnws a Charon, cydunwch fel dynion,
Cewch felly'n gyfeillion wyr dewrion a dwys,
A sefwch yn ffyddlon tra pont dros yr afon,
A meibion o feibion i Fabws.

Mae eto le tirion, ei gofio fydd gyfion,
Yn llawn o gymdeithion hoff radlon a ffri.
Hir iechyd i'r achos, na welwyf mo'i wylnos,
Nac eos Nanteos yn tewi.

Na weler ond hynny, ond haf ar lan Teifi,
Na drain, na mieri, na drysni ar droed,
Na chafod na chwmwl yn blino ar ein meddwl,
Na son am air trwsgwl i'r Trawsgoed.

Y credit a'r arian sy'n nafu Siôn Ifan,[1]
Wrth yfed pob dafan yn gyfan o'i go',
Pan dreulio'r cyfeillgar ei geiniog yn gynnar,
'Difeirwch diweddar daw iddo.

Y cyfaill caruaidd, a saer y maen mwynaidd,
Cais wella dy fuchedd o'r diwedd, ŵr da;
Y dolur a'r dyli, o'th ledol, a thlodi,
Yw'r cwmni ddaw iti o ddiota.

Gwna cwrw a'r tobaco i Garon[2] hir guro,
Yn llydan a llidio a bloeddio'n wr blin,
Try allan yn ddrylliau y cerrig o'r caerau,
A seiliau'n holl greigiau'n hyll gregin.


  1. O Ystrad; y saer a wnaeth y bont.
  2. Sion Caron, y mwynwr a gododd gerrig y bont.