CYFFES Y CASGLYDD.
ER i'r hen wyddon hynod Iolo
Morgannwg dystiolaethu tua
chan mlynedd yn ol mai "Jac o
Lan y Gors oedd yr awdwr
goreu o ganiadau digrif a gogan
gerddawl a fu yn Nghymru
erioed," ychydig o barch a sylw teilwng a
gafodd y llengarwr clodwiw gan ei genedl
Credent, ryw fodd—yr un fath ag ensyniad.
Dafydd Ddu Eryri, mewn llythyr at Sion Lleyn—mai "rhyw faswedd, mae'n debyg, ydyw gwaith
Glan y Gors."
Y mae'r fath syniad yn gyfeiliornus, oblegid, gyda rhywun eithriad hwyrach, nod cywiraf ei brif faledau llithrig a ffraeth yw dyrchafu ei iaith a'i wlad a'i genedl yn y modd mwyaf didwyll a diweniaith, a hynny trwy ddifrio rhai o bechodau mwyaf dirmygedig ei gyfoeswyr rhagrithiol a thrahaus. Yr oedd yn wladgarwr mor naturiol, gonest, ac eangfrydig ei ysbryd, ac yn gyfaill mor siriol, tyner, a chynnes ei galon, fel nas gallai oddef hymbygoliaeth a gormes mewn gwladwriaeth na chymdeithas. Dylid codi cof-golofn ar y llannerch amlycaf ym mhlwy Cerrig y Drudion, er ei anrhydeddu, am mai efe a drefnodd ei fwa ac a ollyngodd y saeth gyntaf i fynwes galed, oer, y bod bawaidd a alwodd ar y gwawd-deitl byth-hysbys "Dic Sion Dafydd."
Ni chafodd Glan y Gors y safle a haedda fel Cymro gan ei fywgraffwyr. Y cofiant mwyaf teg, llawn, a byw a ymddangosodd iddo ydyw yr un a luniodd y Llyfrbryf,—a geir yn "y Geninen," Cyf. I. Rhif 4. Ond dyma un o'i brif fynegiadau yntau,—