Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gorffwysa ei enwogrwydd fel bardd ar wyth o gerddi duchanol a miniog, wedi eu gwisgo mewn iaith werinol gref, a'u haddurno â phortreadau neillduol o darawiadol." Yna fe'u dynoda, gan gyfaddef,—"Dyma'r oll o'i gerddi y daethom ni o hyd iddynt."

Ymddanghosodd yr wyth cerdd adnabyddus yn "Yr Awen Lawen, sef Casgliad of Casgliad o Gerddi Dewisol," a argraffwyd yn Abertawe, gan J. A. Williams, yn 1825, ac eilwaith yn 1826. Ceir hwynt hefyd, yn wasgaredig, fel cerddi cylchredol; ond deuent y rhan amlaf o wasg Ismael Davies, Bryn Pyll, Trefriw, a John Jones, o'r un lle, ac wedyn o Lanrwst.

Cefais fy swyno gymaint gan ysgrif fywiog y Llyfrbryf, a chan rym y cerddi Cymreigaidd eu hunain, fel y cymerais yn fy mhen i chwilota am hynny ellid gael o weithiau coll Glan y Gors; a ffrwyth blynyddau o lafur di-ildio ydyw y casgliad hwn. Cefais amryw o honynt o guddfannau rhyfedd, a'r rheiny mewn diwyg wael, a'u hiaith yn anhawdd i'w deongli—oherwydd aneglurder yr argraff, neu drwstaneiddiwch y llawysgrifen." Mae rhwymedigaeth o ddiolchgarwch arnaf i'r caredigion hyn, am eu cynorthwy paroda gefais o dro i dro:—Mr. D. G. Goodwin, Uffington, y Mwythig y Parch. D. H. Davies, Ficer Cenarth; Cadrawd, Llangynwyd; Myrddin Fardd, Chwilog; Brythonydd, y Wenallt, Brongest, Castell Newydd Emlyn; a Mr. J. G. Jones (Ap Cyffin, o Lansantffraid ym Mechain), 14, Heol Rhydychen, "Gwig—Cwm—Uchaf" (High Wycombe).

Nanmor, ger Beddgelert.

Mai 1, 1905.
CARNEDDOG.