Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I. CERDDI CERRIG Y DRUDION.

GWRANDEWCH, BRYDYDDION.[1]

Tôn-YMADAWIAD Y BRENIN.

GWRANDEWCH, Brydyddion union enw,
Rhai sydd yn siarad mewn naws arw,
Mae genny ganiad trwsiad traserch,
Trwy achwynion yrra i'ch annerch;
Os cymrwch yn garedig arna,
Mi wnaf adrodd oren y medra;
O na chawn ddoniol ddawn,
Mi wnawn yn llawn y leiniau,
Trwy oesol gariad asio geiriau
I chwi ddynion uchel ddoniau;
Wrth imi yn hagr glaer glywed.
Eger siarad a fersured,
A bod y wlad yn oer ei nad,
Ar doriad gwaradwyddus,

  1. Cerdd Newydd, o gyngor i Brydyddion oedd yn duchanu i'w gilydd. Tra'n llencyn direidus yng Nglan y Gors, lluniodd John Jones amryw gerddi i ensynu merched, &c. Tynodd hynny wg ei gyfoeswyr barddol John Thomas o Bentre'r Foelas: Ellis Roberts (Elis y Coper), o Landdoget, ger Llanrwst; a William Griffith (Bardd Siabod), o Fryn Coch yn Nhre' Wydi,. Capel Curig, a throisant i'w gynghori o ddifrif. Y mae holl gerddi J. Jones yn guddiedig ond yr uchod, yr hon a argraffwyd gydag un Elis y Cowper yn y flwyddyn 1787, "tros Dafydd Dafis." Gwel yr atodiad.