Yn darllen caniad bwriad barus,
Ynfyd leiniau anfodlonus.
Rwyf fi'n anrhegu—canu cwynion,
Heb allu celu o 'wyllys calon,
Ellis a William—ddinam ddoniau,
Clych o gariad fawr o'r dechrau,
Beth bynnag oedd oer gân ar goedd,
Mi glywais floedd aflawen,
Sef enwi'r Cythrel, uchel ochen—
Geiriau diball garw eu diben;
Gobeithio na ddaw amryw bethau,
Bwyth o'ch penyd, byth i'ch pennau;
Mater mawr oedd rhoi ar lawr
Modd dirfawr tramawr trymedd,
Fod Diawl yn feistr cymar camwedd,
I ddynyn doniol dethol doethedd.
Nid barnu 'chwaith—considrwch chwithau
Mor ddigariad ydi'r geiriau,
Os gwnaeth drwy gynnwr eich goganu,
Roedd arno i'w henwi fai am hynny;
Mae pawb yn dwedyd ar ol ei ddigio,
Pwyth naws manwi, peth na's mynno;
Ac felly o hyd mae y byd
Mewn penyd yn poeni,
Ac yn ymgludo i fwy o gledi
Heb droi yn lanwaith i oleuni;
Nid eill 'r un dyn fod tros ei bobol,—
Yr ydwy'n dwedyd, yn atebol;
Os ydyw'r plant yn canlyn chwant,
Fel y mae cant yn cowntio,
Duw rotho mwynder—ras i'w mendio,
'Deill neb eu canlyn, hawdd yw coelio.