Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wel, mater caled, mi wn y coeliwch,
I'r ddau enaid, oni unwch;
Gwyddoch bob un ei hun yn hynod,
Fwy na dyfais ifanc dafod;
Mae cyngor dethe—medd rhai doetha,
Weithia'n gweithio o ben y gwaetha;
Duw nefol Dad a rotho'i rad,
Trwy gariad hawddgarwch,
I wneyd yn llesol haeddol heddwch,
Rhwng caseion gwaelion gwelwch;
Trowch o ddigder eger ogwydd,
Chwi gewch gariad yn dragywydd :—
Dowch yn ol wrth eiriau Paul
yn rhadol mewn rhediad,
Yn lle duchanu i ddrygu'n henaid,
Awn i ganu i'r Oen gogoned.

O! na fedrwn wneyd tangnefedd,
Trwy nefol gariad i chwi i'w gyrredd,
Gwneweh, os gellwch, heddwch heddyw,
Rhag i chwi fory fod yn feirw;
Cofiweh, ddynion, fod dau enaid,
Mewn disgwylfa hyna henwad,
Am gael rhan yn yr un man;
Mewn gwiwlan le golau,
Duw yn llawen, gywren gaerau,
Oreu mwyniant i chwi a minnau;
Pe medrwn wneyd eich lle'n y nefo'dd.
Gwir yw'r geiriau—gwnawn o'm gwirfodd;
Dowch efo mi o flaen Duw Tri,
A gweddi dragwyddol;
I ddawnus nofio i ddinas nefol,
Cyn ein meirw mae ini ymorol.