Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TEULU GLYN LLUGWY.

Penhillion i annerch Teulu Glyn Llugwy, Capel Curig.

Tôn,–BELISLE MARCH.

YR hyn sydd genny' o'm haelioni
Rwy yn ei roddi 'n rhwydd,
I annerch teulu sy'n Nglyn Llugwy,
O ganu yn eu gwydd;
Gan gael mewn gwiwlwydd gymydogion.
Newydd glân ufydd yn y Glyn,
Gall fod tan obaith i'r gymdogaeth
Ryw helaeth fraint o hyn.
Hen noddfa fwyn a ful
I dylodion lymion lu,
Gan amryw deulu a fu'n trigfannu
Yn hir heb gelu'n gu;
Tan obaith eto, er adfeilio,
Y ceiff ei llwytho'n llawn,
A gwir haelion a thosturi,—
Boed i Dduw ddodi'r ddawn.
Blwyfolion dylion, dewch,
Tre Wydyr, ymgryfhewch,
'Does wybod eglur pa ryw fesur
O gysur eto a gewch;
Pan fo'n hanghenion wrth achosion
I drin materion tynn,
Geill fod yn sicir, i chwi 'n swewr,
Gael gwladwr da'n y Glyn.

Boed gras a ffyniant, fanwl fwyniant,
Mewn llwyddiant ar eu lle,
A hwythau 'n drefnus a boddlonus,
Dda foddus, ynddo fe ;
Mewn parch a chariad mawr gymeriad.
Pur rwymiad yn parhau,