Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ANNERCH JONATHAN HUGHES.

Cerdd Newydd, i ofyn llyfr i Jonathan Hughes, y bardd
enwog o Bengwern, yn ymyl Llangollen, dros John Gruffydd,
gwas yn Hafod—y—Maidd.

Tôn. CALON DROM

HYD atoch gwynion, gyda'ch cennad,—
Wr da sufyl er deisyfiad,
Un Jonathan Hughes wy'n ethol,
Yma'n bybyr o'r holl bobol,—
Pennaeth hynod, yn dda wiwnod am awenydd;
Canwyll ryfedd ichwi a roddwyd,
Ai goleuni yn dda asbri, o nerth yr Ysbryd.

Nid hyn, wr cuf a bér eich cofio,
A gyrru atoch, —gwir yw eto;
Mae un dalent yn eich dwylo,
Rwy' fi yn bygwth myn'd i'w begio;
Pe dawn ym medru canu cwynion,—
Awen wisgi, a synwyr drwyddi, sain 'madroddion;
Och! ni fedraf ond ynfydrwydd,—
Er bod 'wyllys, nid wyf hwylus, ond anhylwydd.

Dealldwriaeth dull y dyri,
Diwad amod, ni rowd imi,—
Fawr ddysgeidiaeth ni ches godi,
Na dim yn fanwl i 'sgrifenu,
Dim awenydd—mae'n erwinol,
Ond myfyrio—hir ystudio anwastadol,—
Ni alla'i felly ganu'n gynnes,
Na phrydyddu, ond rhwyg daflu rhigwm diflas.

Ond clod i enw Duw daionus,
Yma 'n gyfan am a gefis,