Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel y medraf mi wnaf adrodd,
Gan ryfygu eich rhywiog—fodd;
Gobeithio rwy' nad yw'ch ymddygied,
I edrych beiau, na 'chwaith seiliau un gin saled;
O'ch gwaith yn wiwlan am a welis,
Rho'wch 'rwy'n credu, yn ol eich gallu, â rhywiog 'wyllys.

Cennad wyf â'm cwynfan dyfal,
Dros fachgennyn llwyd sy'n lled-sal—
I gymydog agos imi—
Gwan dyledog, gin dylodi;
y byd sy'n gafael yn ei gefen.—
Ei gyfaillamla, a'i 'stori enga yw Meister Angen;
Deg o dylwyth, dygn deulu,
Heb allu 'mlwybran ond ef ei hunan—mawr yw hynny.

Yn un o'i blant mae chwant yn codi,
A blys cynnyg pleser canu,
Ei holl lwyrfryd trin rhyw lyfrau,
A fo'n gain wiwdeg ar ganiadau;
Fe ganfu wrth ymlid ryw waith amlwg,
Mewn llyfr newydd—a hwn oedd hylwydd yn
ei olwg.
O'i süg flasus seigiau flysiodd,
Fel gwin melus (Och! yn awchus), a chwenychodd.

Un o'r llyfrau a roesoch chwi allan,
Owych hynod waith eich hunan,
Dyna'r dolur sydd yn dilyn—
Oernych ganiad y bachgennyn;
Nid eill o gyrraedd mono âg arian,
Am fod ei ysgwydd—gwael ei ogwydd, gul yn egwan;