Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac amryw seigiau tra gwresogol
I'r rhai sy' am nofio i wynfyd nefol;
Duw fo golau pob rhyw galon,
I iawn geisio gras heb ffeilio 'n groes o ffyddlon;
I gyd yn gynnes i gyd—ganu:—
Duw a'n ledio, ac a'n t'wyso ni oll at Iesu.

Mae'n amser imi dewi o'r diwedd,
A'm tôn anghynnes ddigynghanedd,
Ond os ca 'i 'r neges yn ddi—nacau,
Ni waeth imi hyhi na 'r orau;
Ae oni chaf, nid af ond hynny,
I ddynwarad y bri dueddiad o brydyddu;
Hardda' ffasiwn imi orffwyso,—
Blin yw'r lluddad canu brigad cwyno a begio.