Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OCH ALARNAD.

Cerdd Newydd, yn cwynfanu am William Jones, o Gerrig y
Drudion, yr hwn a foddodd wrth fynd o Gaernarfon i'r
Werddon,—gyda chysur i'w deufu i beidio ag wylo
at ei ol.

Tôn.—TRYMDER.

OCH alarnad ganiad gaeth,
Trom hiraeth yw hon,
Wrth gofio William Jones a'i wedd,
Un luniedd llon,—
Oedd fachgen heini wisgi wawr,—
Rwy'n llawn o gyni, aeth i lawr
I ddwr y môr ar dywydd mawr,
Nid yw 'fe mwy,—
Wrth fynd i'r Werddon, moddion maith,
O dre' Caernarfon, wiwlon waith,
Fe gafodd derfyn ar ei daith
Dan glo faith glwy.

Nid llai nac wylo ar ei ol,
Mae i bobol heb wad,
Am gael o'i burlan wedd
Run diwedd a'i dad;
Ei fam sy' i'w chofio yn ddi—gudd,
Och wael ei bron a chalon brudd,
Yn nawsio dŵr bob nôs a dydd.
A'i grudd dan gri;
I'w holl chwiorydd, cystudd caeth,
Meddyliau trymion, union aeth,
Am fyn'd o'i agwedd fwynedd faeth.
I lawrdraeth li.

Mae anian natur ynnom oll,—
Ein coll bob rhai,