Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trwy wylo ar ei ol,—anfuddiol,
Y mae'n fai;
Ond Duw sy'n rhoddi yn ein rhan,
Fel y mynno ymhob man—
Rhai ant yn llwch i lawr y llan,
A rhai i'r lli;
Mae Ef ar gefn y moroedd mawr.
Yn bwrw'r sawl a leicia i lawr,
Rhyfeddol yw ei wyrthiau'n awr,
Rhy faith i ni!

Bod yn foddion rwyddlon ran
A ddylan i Dduw,
Fel defaid er Ei fwyn ar dwyn.
I farw, i fyw;
'Rym ni wrth weddio yn ddi—wad.
Ar y nefol, deddfol Dad,
Yn deisyf 'wyllys Duw ai rad
Ar y ddaear hon;
Gweddio a ddyla ni'n ddiwawd,
I amynedd Iesu gefnu'r cnawd,
Pan alwo Duw am chwaer neu frawd
I fynd ger Ei fron.

Cymerwch gysur bybyr bwyll,
Neu ganwyll o'r gwir,
Trwy foddlonrwydd dedwydd da
Goleua i chwi'n glir;
Cewch weld trwy synwyr, eglur yw,
Nid da bo alar brudd—der briw,
Yn erbyn 'wyllys dawnus Duw
Sy'n byw uwchben;
Er mwyn dy anwyl Fab trwy loes.
Fu'n ein gwaredu ar y groes,
Gwir amynedd ini moes,
o Dad,—Amen.