Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CERDD DIC SION DAFYDD.[1][2][3]

Gwrandewch ar Hanes Dic Sion Dafydd,
Mab Hafotty'r Mynydd mawr;
A'i daid yn d'wedyd bod ei wreiddyn
O Hil gethin Albion Gawr.

Ni wyddai Dic fawr am lyth'renau,
Na'r modd i ddarllen llyfrau llawn,
Yr holl addysg ga'dd e' gartre',
Oedd nyddu, a chardio, a chodi mawn.

Mewn ffeiriau Dic a fedrai swagro
Dan dynu am dano'n eitha' dyn;
Gwneuthur Siot a bygwth paffio,
Ac yno hwylio i ddawnsio ei hun,

O'r diwedd Dic a ddaeth i Lundain,
A'i drwyn 'fewn llathen at gynffon llo,

  1. Ymddangosodd hon gyntaf yn 1803, yn y llyfr "Barddoniaeth, yn cynwys Cerddi, Cywyddau, ac Ynglynion: gan Robert Davies, Nantglyn." Yn y rhestr cynorthwywyr, ceir enw "Glan y Gors" am chwe' llyfr.
  2. "Un o'r cerddi mwyaf adnabyddus yn ein hiaith yw 'Dic Sion Dafydd. Y mae, fel y Wyddfa ym mysg mynyddoedd Arfon, yn fwy ei henwogrwydd na'r un o'i chymdeithion. Yr oedd ei hawdwr Jac Glan y Gors' yn wr o sefyllfa gymdeithasol uwch, ac o ddiwylliant meddyliol eangach, na'r cyffredin o gyfansoddwyr cerddi; ac y mae ei gynhyrchion, er yn ychydig mewn nifer, yn debyg o fyw cyhyd a'r iaith. Diau fod yr enw Dic Sion Dafydd yn llawer mwy adnabyddus na'r gerdd ei hun, a dichon fod rhai erbyn hyn yn defnyddio yr enw heb wybod dim am ei darddiad."—DEWI MON.
  3. "O holl gerddi Glan y Gors,' fe ddichon mai Dic Sion Dafydd ydyw y fwyaf hysbys. Yn honno, efe a warthruddodd dros byth yr adyn mwyaf dirmygiedig a fedd y ddynoliaeth ar ei helw, sef y câs—ddyn gwael sydd bob amser yn barod i wadu ei wlad a'i genedl pan ddelo'r chwa leiaf o wynt llwyddiant tan ei adenydd." —Y LLYFRBRYF.