Tudalen:Gwaith Glan y Gors.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar hyd y ffordd a'i bastwn onen,
Yr oedd e'n gwaeddu,—"Hai! ptrw, ho!"

Fe ga'dd le efo Haberdasher,
Ran ei fod e'n ddewisol iach.
I fyn'd i gario amryw geiriach,
Creiau neu ryw binnau bach.

Dechreuodd yno fwrw ei hen—flew,
Ca'dd sipog las a gwasgod wen;
Ac i wneyd ei hun yn gryno,
Dechreuodd hwylio i bowdro ei ben,

Ond toc fe flinodd ar wasanaeth,
A mynodd helaeth siop ei hun,
Er gwyddai'r cryddion a'r teilwriaid
Mai mewn dyled oedd y dyn.

Dechreuodd wybod am y farchnad,
Ymledu, siarad, a chadw swn;
Nid oedd un dyn mor hardd ei ymddygiad,
Mewn Half Boots a Phantaloon.

Wedi llyncu polyn ac ymchwyddo,
A'i glustiau'n gryno'n rhwbio ei grys,
A thorch o fwslin am ei wddw',
A chylch o fodrwy am ei fys.

Ar Ddywsul Dic a fyddai'u benaeth,
Mewn gig, a geneth gydag e',
Ac yn gwaeddi mewn rhyw lediaith,—
Open the gate, and clear the way.

Ac wedi gwneyd ei hun i fyny,
I wlad Cymru fe aeth bob cam,
Yn ei gadair yn ergydio,
Y gwaeddi "Holo" wrth 'Fotty ei fam.