Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fum yn dal wrthi ddycna gallwn i barotoi ychydig o bregethau tra bai 'r dydd yn hir, fal y gallwn gael y gauaf i brydyddu wrth olau 'r tân fal arferol. Nid gwaith i'w wneuthur wrth ganwyll ddimau yw prydyddu; ac nid mewn undydd unnos yr adeiladir y Castell Coch.

Ai e? Mae Elisa Gowper wedi derio dannedd y Monwyson llesgethan? Och o druain! Drwg yw 'r byd fod yr Awen cyn brined yn Mon nad ellid gwneuthur i'r carp safnrhwth, tafod-ddrwg hwnnw wastatu. Ond gwir sy dda, ni thâli ddyfetha prydyddiaeth wrtho, oddigerth y caid rhyw lipryn cynysgaeddol o'r un ddawn ag Elis ei hun; sef yw hynny, nid dawn awenydd, ond dawn ymdafodi ac ymserthu 'n fustlaidd, ddrewedig anaele. Fe debygai dyn wrth dafod ac araith Elisa, mai ar laeth gâst y magesid ef, yn nghymysg ac Album Graecum; ac mai swydd ei dafod cyn dysgu siarad oedd llyfu, ac onide ni buasai bosibl iddo oddef blas ac archwaeth budreddi ei ymadrodd ei hun. Mi fum i unwaith yn ngwmni Elis yn Llanrwst, ers yn nghylch pedair blynedd ar ddeg i 'rwan, yn ymryson prydyddu extempore, ac fe ddywaid fy mod yn barotaf bachgen a welsai erioed; ac eto er hyn, yn y diwedd, ni wasanaethai dim iddo oni chai o'r lleban arall o Sir Fon oedd yn ffrind iddo, fy lainio i. A hynny a wnaethent oni buasai clochydd Caernarfon oedd gyda mi. Tybio yr wyf mai prifio 'n rhy dost o rychor iddo a wnaethum yn ei arfau ei hun, sef tychanu, a galw enwau drwg ar gân.

Ydyw. Y mae offeiriad Walton yn cyweirio croen y Delyn Ledr bob munud o seibiant a