Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gaffo; ond chwi a'i cewch adref cyn pen hir rhag eich marw o hiraeth. Er mwyn dyn a gaed fyth afael ar yr hen Farcutiaid, y soniasoch am danynt? Gwaith Edmwnd Prys, etc.? Mi welais ers talm o flynyddoedd, pan oeddwn yn Lleyn, holl ymrysonion a gorchestion Emwnt Prys a William Cynwal, gan yr hen Berson Price o Edeyrn—Price Pentraeth gynt, a Pherson Llanfair yn Nhwll Gwimbill, alias Pwll Gwyngyll —yr hwn oedd or ŵyr i'r Archddiacon.

Nid hen ddyn dwl oedd yr Archddiacon, a chofio yr amser yr oedd yn byw ynddo. Eto. yr wyf fi yn cyfrif William Cynwal yn well bardd o ran naturiol anian ac athrylith; ond bod Emwnt yn rhagori mewn dysg. Nid oedd Cynwal druan, ysgolhaig bol clawdd, ond megist ymladd a'r dyrnau moelion yn erbyn tarian a llurig,—

"A'r gwanna ddyn â gwain ddur
A dyr nerth a dwrn Arthur,"

chwedl yr hen bobl gynt.

E ddigwydd weithiau i natur ei hunan, heb gynorthwy dysg, wneuthur rhyfeddodau. Eto nid yw hynny onid damwain tra anghyffredin. Ac er mai prydferthwch dawn Duw yw naturiol athrylith, ac mai perffeithrwydd natur yw dysg, eto dewisach fyddai gennyf fi feddu rhan gym hedrol o bob un o'r ddwy, na rhagori hyd yr eithaf yn yr un o'r ddwy yn unig heb gyfran o'r llall. Mi glywais hen chwedl a ddywedir yn gyffredin ar Ddafydd ap Gwilym, sef—

"Gwell yw Awen i ganu
Na phen doeth ac na phin du."