Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

exercise. Fe allai mai e. Gwyn eich byd chwi sy 'n perchen gardd. Nid oes gennyf fi ddim o'r gwaith hwnnw i wneuthur yma ysywaeth! Ond ni chlywais i son fod Selyf yn ymhel a rhaw bal erioed; ac os gorfu i Adda ryforio, nid oes gennyf nemawr o gwyn iddo; ei fai ei hun oedd.

Och fi! Pa fodd yr aeth Llanrhaiadr nesaf i Ddinbych heibio heb wybod i neb? Y rhent orau. yn Esgobaeth Bangor! Dyma 'r Aldramon yn dywedyd ei bod yn ddigon o hyd yn wag; a bod Mr. John Ellis o Fangor wedi ei gwrthod hi. Mae hi yn 150 per annum, medd o. Gwych a fuasai gael gafael arni hi.

Aie? Prydyddiaeth esmwyth a chwenychai Mr. Ellis? As much as to say my numbers do not glide smoothly enough. Os ynteu y peth a all plentyn ei amgyffred sydd esmwyth, gwell i mi wneuthur ambell ddyri; ond gan gofio, onid yw Llyfr y Vicar, a'r Cerddlyfr yn ddigon helaeth yn eich plith? Eto ni ddyall plentyn deuddeg oed un pennill o ddim byd yn yr un o'r ddau. That is talking to no purpose I never wrote anything designedly for children; no, nor fools, nor old women; and while my brains are sound, never shall. Gwaed llosgwrn y gath! Ac nid oes gan Fardd ddim i'w wneyd ond clytio mân ddyriau duwiol i hoglanciau a llancesi i'w dysgu, i ysgafnhau baich yr offeiriaid? A phe bai un gan ffoled a gwneuthur hynny, odid y ceid gan y ilanciau tywod a'r merched nyddu fod mor fwyn a chymeryd y rhei'ny yn gyfnewid yn lle eu hen ddyriau anwylion a ddysgasant er ys llawer blwyddyn.