Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

quæram. Litteræ mihi nihil aliud sunt nisi addita lumina, quibus miseriam meam magis perspicue prospicio."

Si paupertas pro merito habeatur, nescio quin ego sim tuo favore dignissimus.

Ad Audoenum Meyrick.[1]



ENGLYNION O WEDDI.

[Cyn myned i Rydychen.]

Duw Tad, un o'th rad a thri,—Duw anwyl,
Daionus dy berchi;
Duw unig y daioni,
Clau yw fy nghred, clyw fy nghri.

Dy eiriau, Ion clau, clywais—yn addaw
Noddi rawb a'th ymgais;
Ymagored, mi gurais,
Y nef wrth fy llef a'm llais.

Gellaist,—i'th nerthog allu—nid yw boen—
Wneyd y byd a'i brynnu;
Yn Dwysog, un Duw Iesu,
Ti sydd, Ti fydd, Ti a fu.

Da gwyddost wrando gweddi—dy weision;
Dewisaist eu noddi:
A minnau wyf, o mynni,
Duw Iesu deg, dy was Di.


  1. Bu fy mam farw, priododd fy nhad, a gorfod i mi ymdaraw fy hun ac, heb ymarfer â gwaith, nis gwn pa fodd i fyw. Nid yw Dysgeidiaeth ond goleu ychwanegol, trwy'r hwn y gwelaf, yn fwy eglur, yr anedwyddwch sydd o'm blaen. Os cyfrifir tlodi yn haeddiant, tybiaf mai myfi sy'n haeddu'th ffafr fwyaf.,
    At Owen Meurig.