Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. YN DONNIGTON

HANES BYWYD.

[Llythyr at Richard Morris, Mehefin 22, 1752.]

SYR,—Mi a dderbyniais eich epistol, a rhyfedd oedd gennyf weled un yn dyfod ataf o Lundain, a thra rhyfedd gweled enw gŵr na welais erioed â'm llygaid. Ffafr oedd hon heb ei disgwyl; eithr " po lleiaf y disgwyliad, mwyaf y cymeriad." Er na ddigwyddodd i'm llygaid erioed ganfod mo honoch, eto nid dieithr imi mo 'ch enw; tra fu fyw fy mam, mi a'i clywais yn fynych. Gan ofyn o honoch pa fath fywiolaeth sydd arnaf, cymerwch fy hanes fel y canlyn.

Nid gwiw gennyf ddechreu son am y rhan gyntaf o'm heinioes, ac yn wir prin y tâl un rhan arall ei chrybwyll, oblegid nad yw 'n cynnwys dim sydd hynod, oddigerth trwstaneiddrwydd a helbulon; a'ch bod chwithau yn gorchymyn yn bendant i mi roi ryw draws amcan o'm hanes Tra bum a'm llaw yn rhydd, chwedl pobl Mon, neu heb briodi, byw yr oeddwn fel gwŷr ieuainc eraill, weithiau wrth fy modd, weithiau yn anfoddlon; ond pa wedd bynnag, a digon o arian i'm cyfreidiau fy hun, a pha raid ychwaneg? Yn y flwyddyn 1745, e'm hurddwyd yn ddiacon, yr hyn a eilw ein pobl ni, "offeiriad hanner pann." Ac yno fe ddigwyddodd fod ar Esgob Bangor eisieu curad y pryd hynny, yn Llanfair Mathafarn Eithaf, yn Mon. A chan nad oedd yr esgob ei hun gartref, ei gaplain ef a gytunodd â mi i fyned yno. Da iawn oedd gennyf y fath gyfleusdra i fyned i Fon, oblegid yn sir Gaernarfon a sir Ddinbych y buaswn yn bwrw 'r darn arall o'm