Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hoes, er yn un—ar—ddeg oed, ac yn enwedig i'r plwyf lle 'm ganesid ac y'm magesid. Ac yno yr aethum, ac yno y bum dair wythnos, yn fawr fy mharch a'm cariad, gyda phob math, o fawr i fach; a'm tad yr amser hwnnw yn fyw ac iach, ac yn un o'm plwyfolion. Eithr ni cheir y melust heb y chwerw." Och! O'r cyfnewid! Dyma lythyr yn dyfod oddi wrth yr esgob, Dr. Hutton, at ei gapelwr, neu gaplain, yn dywedyd fod un Mr. John Ellis, o Gaernarfon, "a young clergyman. of a very good fortune," wedi bod yn hir grefu ac ymbil ar yr esgob am ryw le, lle gwelai ei arglwyddiaeth yn oreu, o fewn ei esgobaeth ef; ac ateb yr esgob oedd, "Os Mr. Ellis a welai yn dda wasanaethu Llanfair," y lle y gyrasai y capelwr fi, "yr edrychai efe," yr esgob, "am ryw le gwell iddo ar fyrder." Pa beth a wnai drwstan? Nid oedd wiw achwyn ar y capelwr wrth yr esgob, nac ymryson à neb o honynt, yn enwedig am beth mor wael; oblegid na thalai 'r guradiaeth oddi ar ugain punt yn y flwyddyn. Gorfu arnaf fyned i sir Ddinbych yn fy ol, ac yno y cefais hanes curadiaeth yn ymyl Croesoswallt, yn sir y Mwythig, ac yno y cyfeiriais. Ac er hynny hyd y dydd heddyw, ni welais ac ni throediais mo ymylau Mon, nac ychwaith un cwr arall o Gymru, onid unwaith pan orfu i mi fyned i Lan Elwy i gael urdd offeiriad.

Mi fum yn gurad yn nhref Croesoswallt ynghylch tair blynedd; ac yno y priodais yn Awst, 1747. Ac o Groesoswallt y deuais yma ym Medi, 1748. Ac yn awr, i Dduw y byddo 'r diolch, y mae gennyf ddau lanc teg; a Duw a roddo iddynt ras, ac i minnau iechyd i'w magu hwy.