Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Enw'r hynaf yw Robert, a thair blwydd yw er dydd Calan diweddaf. Enw'r llall yw Goronwy, a blwydd yw er y pumed o Fai diweddaf.

Am fy mywiolaeth, nid ydyw onid go helbulus; canys nid oes gennyf ddim i fyw arno, onid enillwyf yn ddigon drud. Pobl gefnog, cyfrifol yw cenedl fy ngwraig i; ond ni fumi erioed. ddim gwell erddynt, er na ddygais mo honi heb eu cennad hwynt; ac na ddigiais monynt. ychwaith. Ni fedr fy ngwraig i ond ychydig iawn o Gymraeg; eto hi ddeall beth; ac ofni'r wyf, onid af i Gymru cyn bo hir, mai Saeson a fydd y bechgyn; canys yn fy myw ni chawn gan y mwyaf ddysgu un gair o Gymraeg. Mae gennyf yma ysgol yn Donnington, ac eglwys yn Uppington i'w gwasanaethu; a'r cwbl am 26 punt yn y flwyddyn; a pha beth yw hynny tuag at gadw ty a chynifer o dylwyth, yn enwedig yn Lloegr, lle mae pob peth yn ddrud, a'r bobl yn dostion ac yn ddigymwynas? Er hynny, na ato Duw imi anfoddloni, o herwydd "po cyfyngaf gan ddyn, ehangaf gan Dduw." Nid oes ond gobeithio am well troiad ar fyd.

Fe addawodd eich brawd Llywelyn o Geredigion yr edrychai ryw amser am ryw le imi yng Nghymru; ac nis gwaeth gennyf fi frwynen yn mha gwr o Gymru. Duw a gadwo iddo ef iechyd a hoedl, ac i minnau ryw fath o fywiolaeth ac amynedd i ddisgwyl. Nid oes gennyf yn awr neb arall i ddisgwyl wrtho. Ni waeth gan y bobl yma, am a welaf fi, er yr hwyed y cadwont ddyn. danodd, os cânt hwy eu gwasanaethu, deued a ddêl o'u gwasanaethwr. Ni phrisiant hwy ddraen. er gwario o hono ei holl nerth a'i amser; ie, a