Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwisgo o hono ei gnawd oddi am ei esgyrn, yn eu gwasanaeth hwynt.

Ysgotyn yw 'r gŵr yr wyf fi yn ei wasanaethu yn awr, a Douglas yw ei enw. Ysgatfydd chwil a'i hadwaenoch. Y mae yn Llundain yn awr, a'r rhan fwyaf o'i amser, gyda Iarll Baddon, yn dysgu ei fab ef. Efe yw'r gŵr a gymerth blaid y prydydd Milton yn erbyn yr enllibiwr algas, gau, Lauder. Pa wedd bynnag, tost a chaled ddigon ydyw hwnnw wrthyf fi. Yr wyf yn dal rhyw ychydig o dir, sy 'n perthyn i'r ysgol, ganddo ef; ac er ei fod yn rhy ddrud o'r blaen, eto fe yrrodd eleni i godi fy ardreth i, rhag ofn a fyddai i gurad druan ynnill dim yn ei wasanaeth ef, neu gael bargen rhy dda ar ei law ef.

Mae gennyf ryw awydd diwala i ddysgu cymmaint ag a allwyf, ond ni fedraf gael mo 'r llyfrau i ddysgu dim a dalo ei ddysgu. Ni adnabum i neb erioed yn Llan Elian, na nemawr yn un lle arall yn Mon, oddigerth ychydig ynghylch y cartref, a thua Dulas, a Bodewryd, a Phenmon, &c., lle yr oedd ceraint fy mam yn byw. Er pan aethum i'r ysgol gyntaf, hynny oedd ynghylch deg neu un ar ddeg oed, nid oeddwn arferol o fod gartref ond yn unig yn y gwyliau; ac felly nid allwn adwaen mo 'r llawer. Mi a wn amcan pa le mae Tref Castell yn sefyll, er nas gwyddwn pwy a'i pioedd. Y tro cyntaf erioed yr euthum i'r ysgol, diane a wneuthum gyda bechgyn eraill heb wybod i'm tad a'm mam; fy nhad a fynnai fy nghuro, a'm mam nis gadawai iddo. Ba wedd bynnag, trwy gynhwysiad fy mam, yna y glynais. hyd oni ddysgais ennill fy mywyd. A da iawn a fu i mi; oblegid ynghylch yr amser yr oeddwn