Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ryw un, ac ymhoffi ynddo, yn hytrach nag eraill, er nas dichon ddirnad pa fodd na phaham, neu am ba achos. Am danaf fy hun, mi allaf ddywedyd, er dechreuad ein cydnabyddiaeth, na welais i yr un y bai hoffach gennyf ei gymdeithas na William Elias; a llawer gwaith yr amcenais. ysgrifennu atoch, pe gwybuaswn pa sut; o'r diwedd mi a gefais wybodaeth o Gymru ym mha le yr ydych yn byw. Mi fynaswn i'r Awen dacluso peth ar fy ymadroddion rhydlyd ac anystwyth; ni fynnai mo 'm clywed, er taer ymbil of honof fel hyn,

GORONWY.
Dos, fy nghân, at fardd anwyl;
O byddi gwan, na bydd gwyl;
Bydd gofus; baidd ei gyfarch;
Dywaid dy bwyll, a dod barch.
AWEN.
Os i Fon y'm danfoni,
Pair anghlod i'th dafod di;
Bu gyfarwydd dderwyddon,
Gwyr hyddysg, yn mysg gwŷr Mon.
Priawd iddi prydyddiaeth;
Cadd doethion ym Mon eu maeth;
Mon sy ben, er ys ennyd,
A'r ddoethion a beirddion byd.
Pwy un glod â'i thafodiaith?
A phwy yr un â'i pher iaith?
Tithau waethwaeth yr aethost;
Marw yw dy fath, mawr dy fost.
Nid amgen wyd nad ymgais
Dirnad swrn, darn wyd o Sais,
A'r gŵr, i'r hwn y'm gyrri,
Nid pwl ful dwl yw, fal di;