Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond prif-fardd yw o'r harddaf;
Am dy gân gogan a gaf.
Hawdd gwg a haeddu gogan;
Deall y gŵr dwyll y gân;
Un terrig yw; nid hwyrach,
Gwn y chwardd am ben bardd bach
GORONWY.
O Gymru lân yr hannwyf,
Na cham ran, a Chymro wyf;
A dinam yw fy mamiaith;
Nid gwledig, na chwithig chwaith.
Bellach dos ac ymosod,
Arch dwys; ato f' annerch dod;
A gwel na chynnyg William
Elias na chas na cham.

Hyd yma mi a'i llusgais gerfydd ei chlust, ac yma hi a'm gadawodd; a sorri a ffromi a wnaethum innau, ac ymroi i ysgrifennu y rhan arall heb gynghanedd, yn hytrach na bod yn rhwymedig iddi. Nid oes gennyf ddim newydd a dâl i ddywedyd i chwi oddi yma, oblegid nad adwaen- och na'r lle na 'r trigolion. Mae gennyf ddau fab, ac enw 'r ieuangaf yw Goronwy. Yr wyf yn awr wedi cymeryd ail afael yn fy ngramadeg Cymraeg, a ddechreuais er cyhyd o amser; ond y mae 'r gwaith yn myned yn mlaen fal y falwen, o achos bod gormod gennyf o waith arall yn fy nwylaw. Mi ddymunaf arnoch yrru i mi lythyr a rhyw faint o'r hen gelfyddyd ynddo gynted ac y caffoch ennyd. Nid oes yrwan gennyf fwy i chwanegu, ond fy mod,

Eich ufudd wasanaethwr, o ewyllys da,
GORONWY OWAIN.