fod ar law dyn o'm bath i ganu iddi fel yr haeddai; eto mi allaf ddangos yr ewyllys; ac nid eill y goreu ddim yn ychwaneg. Mi allaswn, yr wyf yn cyfaddef, siarad geiriau mwy; ond yr oedd arnaf weithiau ofn dywedyd y gwir i gyd, rhag i neb dybied fy mod yn gwenieithio, yr hyn sydd gasbeth gan fy nghalon. Fe ŵyr pawb a'i hadwaenai hi nad ydwyf yn celwyddu nag yn gwenieitho o'i phlegid.
Am y lle y crybwyllais eich enw chwi, esgusodwch fi. Nis gwyddwn pa beth i ddywedyd am danoch, ac nis clywais erioed amgen na 'ch bod yna yn Llundain, a rhai o'ch mân gampiau a'ch mwynion chwedlau gynt, pan oeddych yn fachgen, a glywswn gan fy mam; pa fodd y cymmerasoch fwyall fechan gyda chwi i dorri'r ysgol erbyn y Gwyliau, a'r cyffelyb. Mi welais hefyd. er ys gwell na deunaw mlynedd ym meddiant fy ewythr, Robert Gronow, lythyr, ac ynddo ryw nifer o englynion cywreinddoeth a yrasech gynt oddi yna at fy nhaid, yr hen Ronw; ac heblaw hynny nid cof gennyf glywed na siw na miw yn eich cylch. Pa wedd bynnag, yr wyf yn dyall wrth hynny fod gennych eich rhan o naturioldeb gwreiddiol yr hen gelfyddyd, a gobeithio na thybiwch i mi wneuthur dim cam â chwi. Mi a yrrais y cywydd i Mr. William Morris o Gybi, ac i fy athraw o Allt Fadog hefyd; ond nis clywais eto pa 'r un ai da ai drwg ydyw. Yr wyf yn coelio pe cymeraswn lai o ofal yn ei gywreinio, mai llawer gwell a fuasai; canys sicr yw, fod gormod gofal cynddrwg a gormod diofalwch. Llyma 'r cywydd fel y mae.
GORONWY DDU, GYNT O FON.