Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

AR WAWR bore Deffroad llenyddol gwerin Cymru, cawn Oronwy Owen yn gweled arwyddion gogoniant meddwl ei wlad. Gwelai y tywyllwch oedd yn gorwedd arni, gwyddai nad oedd pendefig nac esgob mwy i noddi awen Cymru, dychmygai glywed y werin yn gwrando ar gerddi masweddol a dyriau anghelfydd. Gallasai yntau ennill bri drwy ganu yn ol chwaeth ddirywiedig y dydd, hawdd fuasai iddo guro Elisa Gowper ar ei dir ei hun. Ond ceinder Dafydd ab Gwilym a mawredd meddwl Milton enillodd fryd Goronwy Owen, a hynny pan oedd y naill yn anadnabyddus a'r llall yn ddirmygedig. O'i dlodi a'i hiraeth, cododd yr alltud lef oedd yn adlais o feddwl gorau hen Gymru; a chlywid ynddi, gan yr ychydig arhosodd i wrando, awen rymusach a mwy beiddgar nag a glywsid yng Nghymru erioed o'r blaen.

Ganwyd Goronwy Owen Ionawr 1 (13 yn ol y cyfrif newydd), 1722, yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Mon, mewn bwthyn bychan ar fin rhos, ger y ffordd fawr rhwng Pentraeth a Llannerchymedd. Lawer blwyddyn wedyn, dywedai un o'r un fro am dano ef a'i dad a'i fam,—"Cymysg Owain Grono a Sian Parri ydyw. Nid oedd dan haul ddyn mwy diddaioni nag Owain,