Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac nid allai fod dynes gwrteisiach, ie, a diniweitiach, na Sian."

Yr oedd ysgol yn Llanallgo, dipyn i'r gogledd o'r bwthyn. Aeth Goronwy yno, heb yn wybod i'w rieni. Mynnai ei dad ei guro, ond cymerodd ei fam ei ran. Wedi hynny, pan yn dechreu teimlo gwerth ei awen, cofiai mai gofal ei fam oedd yn cyfrif am dryloewder dillyn ei iaith.

Pan yn un ar ddeg aeth i Ysgol Ramadegol Bangor, a dysgodd gyfansoddi Lladin rhagorol. Pan ddaeth ei ysgol i ben, yr oedd ei fam wedi marw, ac nid oedd y bwthyn ar fin y rhos yn gartref iddo mwy.

Yn bedair ar bymtheg oed cawn ef yn athraw ysgol ym Mhwllheli,—erbyn hyn yn garwr ac yn fardd. Oddiyno medrodd fynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen. Yn 1745 cafodd urdd diacon; ac, er llawenydd iddo, cafodd ei hun yn gurad yn ei hen gartref.

Buan y gorfod iddo droi o Fon; ac o hynny hyd ddiwedd ei oes helbulus bu'n hiraethu, ac yn ofer, am rywle yn ei wlad ei hun. Wedi aros peth yn sir Ddinbych, cafodd guradiaeth yn Selatyn, ger Croesoswallt, ac wedyn yn Nghroesoswallt ei hun. Yno, yn Awst 1747, priododd Elin, gweddw ieuanc, merch i fasnachydd o'r enw Owen Hughes; gwraig oleu—wallt feddal oedd, heb fawr o fyw ynddi.

Yn Medi 1748 cawn Oronwy yn Donnington, y tu hwnt i Shifnal, bron ar derfyn pellaf sir Amwythig. Yr oedd yn athraw yn yr ysgol, ac yn gurad Uppington i John Douglas, amddiffynydd athrylith Milton, ac esgob Carlisle a Salisbury wedi hynny. Gwlad o