Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feusydd tonnog yw hon, gwlad yr haidd a'r gwenith, gwlad y maip a'r ffa. Mae'n un o'r ardaloedd iachaf, a phobl hynaws ynddi yn byw i oedran teg. Yma y blagurodd awen Goronwy, yma y canodd "Gywydd y Farn" a "Chywydd y Cynghorfynt." Yr unig beth a'i poenai oedd hiraeth am Fon a llaw drom yr Ysgotyn oedd yn wasanaethu. Weithiau cymerai ei ddychymyg ehediadau y synnai atynt ei hun, fel yng "Nghywydd y Farn," dro arall bwrlymiai ei hapusrwydd, yng nghwmni ei wraig a'i ddau fab, fell ffrwd fynyddig ar fore teg, yn "Awdl y Gofuned."

Yn Ebrill 1753, cerddodd i Lerpwl, ac yn fuan aeth ei deulu ar ei ol. Daeth yn gurad Walton. Tybiai ei fod yn agosach i Fon, a gwelodd forwyr oddiyno. Ond, wedi adnabod y lle, oer ac anial oedd o'i gydmaru a gwastadedd ffrwythlawn sir Amwythig. Cwynai na ddaethai'r awen gydag ef i'r fro newydd. "Beth a dâl awen mewn lle y bo llymdra a thylodi"? Ing oedd achos y gân oreu wnaeth yn y fro anhylon hon. Yma y ganwyd ei ferch Elin, ac yma y claddwyd hi.

Y mae tuedd mewn ambell le i ddenu i yfed ac ofera. Gadawodd Walton ei ol ar Oronwy. Yr oedd y "sucandai mân bryntion," wnaethai frad ei ragflaenydd, yn graddol ddenu Goronwy hefyd. Clywai ei gyfeillion am "ryw gyfeddach a rhy fynych dramwy i Lerpwl." Dyfnhai tlodi. Oedid gobaith. Ni fedrai ei blant siarad Cymraeg. Er hynny cynhyddai'r awydd am wybodaeth, a fflachiai'r awen o'r awr dduaf,—

"O f' Awen deg, fwyned wyt!
Diodid, dawn Duw ydwyt!
Tydi roit, â diwair wên,
Lais eos i lysowen."