III. YN WALTON.
Y CARTREF NEWYDD.
At William Morris, Ebrill 30, 1753.
YR ANWYL GAREDIG GYDWLADWR,— Dyma fi yn Walton o'r diwedd ar ol hir ludded yn fy nhaith. Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, yn nghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth, a'r person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon. Ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen gwasanaeth a phregethu fy hun yn y bore, a darllain gosper y prydnhawn, ac ynteu a bregethodd. Y mae'r gŵr yn edrych yn wr o'r mwynaf; ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymeryd yn ei ffordd. Mae 'r gwas a'r forwyn, yr hyn yw yr holl deulu a fedd, yn dywedyd mai cidwm cyrrith, anynad, drwg anwydus, aruthr yw. Ond pa beth yw hynny i mi? Bid rhyngddynt hwy ac ynteu am ei gastiau teuluaidd; nid oes i mi ond gwneuthur fy nyledswydd, ac yno draen yn ei gap. Hyn a allaf ddywedyd yn hyf am dano, na chlywais i erioed haiach well pregethwr, na digrifach, mwynach ymgomiwr. Climach o ddyn amrosgo ydyw. Garan anfaintunaidd, aflunaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr anhygoel, ac wynepryd llew, neu rywfaint erchyllach; a'i ddrem arwguch yn tolcio ym mhen pob chwedl, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion; ac yn cnoi dail yr India, hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei en. Ond ni waeth i chwi hynny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthafa welwyd erioed y tu yma i'r Affric. Yr oedd yn swil gennyf ddoe wrth fyned