i'r eglwys yn ein gynau duon, fy ngweled fy hun. yn ei ymyl ef, fel bad ar ol llong.
Bellach e fyddai gymwys roi ichwi gyfrif o'r wlad o'm hamgylch; ond nis gwn eto ddim oddiwrthi, ond mai lle drud anial ydyw ar bob. ymborth. Eto fe gynhygiwyd imi le i fyrddio, hyd oni chaffwyf gyfle i ddwyn fy nheulu ataf, yn ol wyth punt yn y flwyddyn; a pha faint rhatach y byrddiwn ym Mon? Nid yw 'r bobl y ffordd yma, hyd y gwelwyf, ond un radd uwchlaw Hottentots—rhyw greaduriaid anfoesol, didoriad. Pan gyfarfyddir â hwy, ni wnant onid llygadrythu yn llechwrus, heb ddywedyd bwmp mwy na buwch. Eto yr wyf yn clywed mai llwynogod henffel, cyfrwysddrwg, dichellgar ydynt. Ond yr achlod iddynt, ni 'm dawr i o ba ryw y bont. Pymtheg punt ar hugain yw 'r hyn a addawodd fy mhatron imi, ond yr wyf yn dyall y bydd yn beth gwell na i air. Ni rydd imi ffyrling ychwaneg o'i boced, ond y mae yma Ysgol Rad, yr hon a gafodd pob curad o'r blaen, ac a gaf finnau, oni feth, ganddo. Hi dâl dair punt ar ddeg yn y flwyddyn, heblaw ty yn y fynwent i fyw ynddo. Os caf hi, fe fydd fy lle yn well na deugain punt yn y flwyddyn. Fel hyn y mae. Pan fu farw 'r curad diweddaf, fe ddarfu i'r plwyfolion roi 'r Ysgol i'r clochydd. Ac yn wir y clochydd a fyddai 'n ei chadw o'r blaen, ond bod y curad yn rhoi iddo bum punt o'r tair ar ddeg am ei boen. Ond nid oes, erbyn edrych, gan y plwyfolion ddim awdurdod i'w rhoddi hi i neb; ond i'r person y perthyn hynny; ac y mae yn. dwrdio gwario tri neu bedwar cant o bunnau cyn y cyll ei hawl. Felly yr wyf yn o led sicr y caf