Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hi; ac oni chaf, nis gwn yn mha le y caf dŷ i fyw ynddo. Odid imi ei chael hithau gryn dro eto, tua Mehefin neu 'r Gorffennaf ysgatfydd. Os yw John Dafydd Rhys" heb gychwyn, gyrrwch ef yma gyda 'r llong nesaf; a byddwch sicr oi lwybreiddio ef, a'ch holl lythyrau at "Reverend Goronwy Owen, yn Walton, to be left at Mr. Fleetwood's, Bookseller, near the Exchange, Liverpool."—

Mi welais yn Liverpool yma heddyw rai llongwyr o Gymru——ie, o Gybi, y rhai a adwaenwn gynt, er na's adwaenent hwy mo honof fi, ac na's tynnais gydnabyddiaeth yn y byd arnynt, amgen na dywedyd mai Cymro oeddwn o Groesoswallt, lle na's adwaenent hwy; ac felly yr wyf yn dyall fod yn hawdd cael y peth a fynnir o Fon yma. Ond drwg iawn gennyf glywed fod Mr. Ellis anwyl yn glaf. Da chwi rhowch fy ngwasanaeth ato, a chan ddiolch am y "Dr. Dafydd Rhys." Nid oes gennyf ddim y chwaneg i'w ddywedyd yn awr, ond bod y genawes gan yr Awen wedi nacau dyfod un cam gyda myfi y tu yma i'r Wrekin—the Shropshire Parnassus—and that as far as I can see, there is not one hill in Lancashire that will feed a Muse.

At William Morris, Mehefin 2, 1753

WEL, bellach, digon o'r "lol botes" yma; ac weithion am hanes y Llew. Y mae'r hen Deigar a minnau yn cytuno'n burion hyd yn hyn; a pha raid amgen o hyn allan? Ni thybia 'r hen Lew ddim yn rhy dda imi, am fy mod yn medru ymddwyn mewn cwmni yn beth amgenach na'r llall, ac am fy mod yn ddyn go led sobr, heb