Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

my Cywyddau; viz., that they had not a sufficient variety of cynghaneddau.

But enough of this. I beg you will be so good as to keep at least copies of all my Cywyddau that you have by you; for I am afraid I burned them in my hurry amongst some loose papers when I left Donnington. I thought I had safely put them up in my bags with my sermons, etc, but I cannot now find one of them all.

[At Richard Morris, Awst 10, 1753]

DEAR SIR, Mae cyhyd amser er pan ysgrifennais atoch, nas gwn yr awrhon pa sut i ddechreu, na pha 'r afael a gymeraf i esgusodi fy anibendod. Trafferthus oeddwn yn ceisio cynnull ynghyd ryw faint o ddodrefnach at gadw ty. Ffei ffei! Esgus gwag yw hwn. Ni thâl ddraen. Wel gadewch iddo. Llwyr ddigalon oeddwn of eisieu fy llyfrau ac ni allwn ystwytho at ddim of hiraeth am danynt. Ni thycia hynny ychwaith. Yr wyf yn ofni y gorfudd arnaf gyfaddef y caswir a dywedyd rhyw hupynt o ddiogi a syrthni a ddaeth trosof; a phwy a allai wrtho? Pa ddelw bynnag, nis gwn pa 'r un wiraf o'r tri esgus. Cymerwch eich dewis o honynt; neu 'r cwbl ynghyd, os mynnwch, am y rhoddoch i mi faddeuant.

Bellach am eich caredig lythyr diweddaf. Ie! Fi yn Esgob Bangor! Llwyr y darfu i chwi gamgymeryd Llyfr y Daroganau. A ydych chwi yn disgwyl byth weled yno Gymro yn esgob? Cynt y rhown goel ar y Brut sy 'n addaw dyfodiad Owain Lawgoch a'i orfodawglu, nag y dis-