Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyliwn weled byth Gymro uwch bawd na sawdl mewn unrhyw rhagorbarch gwledig neu eglwysig. Am danaf fy hun, mi fum wyth mlynedd bellach yn ymddygnu am gael rhyw fath o offeiriadaeth yng Nghymru, ac nis cefais. Ond yr wyf weithion wedi rhoi fy nghalon mewn esmwythdra. Pe cynygid imi le yn Mon heddyw, ni fynnwn mo honaw, oni byddai yn werth deg punt a deugain o leiaf. Mae gennyf yma ddeugain punt yn llawn a thy, a gŵr mwyn, boneddigaidd yn batron imi. Gwaethaf peth yw, yr wyf yn oestadol ar fy llawn hwde rhwng yr eglwys a'r ysgol; a drud anferthol yw pob ymborth, o achos ein bod mor agos i dref Lerpwl. Ond ofer disgwyl pob peth wrth ein bodd yn y byd yma.

At William Morris, Awst, 12fed, 1753

GWR mwyn, hael, boneddigaidd, yw yr hen Lew i'r sawl a fedro dynnu 'r bara drwy 'r drybedd iddo. Pa beth, debygech. a gefais ganddo eisoes mewn un chwarter blwyddyn? Dim llai na chwech o gadeiriau taclus, ac un easy chair, i'w groesawu ef ei hun pan ddêl i'm hymweled, ac yn nghylch ugain o bictiwrau mewn frames duon.

My Bob is a very great favourite of his, and greatly admired for being such a dapper little fellow in breeches. The Vicar can never see him without smiling; and one day he said, that if himself could be cut as they cut corks, he would make at least a gross of Bobs. And being willing in some sort to try the experiment, he gave him a very good waistcoat of what they call silk