Pa beth debygwch chwi? Mae fy meddwl i wedi troi 'n rhyfeddaf peth a fu erioed. Canwaith y dymunais fyned i Fon i fyw; ond weithion, er na ewyllysiwn ddim gwaeth i'm gwlad nag i'm cydwladwyr, ni fynnwn er dim fyned iddi fyth, ond ar fy nhro. Gwell a fyddai gennyf fyw ymysg y cythreuliaid Ceredigion gyda Llywelyn er gwaethed eu moesau, nag ym Mon. Ond a fynno Duw a fydd. Nid yw awyr y wlad yma ddim yn dygymod â'r Awen cystal ag awyr gwlad y Mwythig. Eto hi a wasanaetha, yr wyf yn dyall; canys mi fum yn ddiweddar yn profi peth ar yr hen Awen, i edrych a oedd wedi rhydu a'i peidio. Mi gefais ganddi yn rhyw sut rygnu imi ryw lun ar Briodasgerdd" i'ch nith, Mrs. Elin Morris, yr hon a yrrais i Allt Fadog gyda "Chywydd y Farn." Tra phrysur wyf yr wythnos yma yn darparu pregethau erbyn y Nadolig. Ac heblaw hynny, yr wyf ar fedr myned a'r ferch i'r eglwys i'w bedyddio yn gyhoedd ddydd Gwyl Domas, ac onide chwi gawsech y "Briodasgerdd" y tro yma; ond chwi a'i cewch y tro nesaf yn ddisiomiant. Yr wyf yn disgwyl clywed o Allt Fadawg cyn bo hir ac yno mi gaf wybod a dál y "Briodasgerdd" ei dangos ai peidio. Nid wyf yn ameu na bydd "Cywydd y Farn" gyda chwi o flaen hwn, os tybia Llywelyn y tal ei yrru. Pendrist iawn ydwyf yn y fan o eisieu llyfrau, &c. Fe orfu arnaf brynnu Homer a benthyca Virgil i gasglu nodau.
Ydwyf, &c,
GORONWY DDU O FON.
Pa beth ddywedwch am "Aelod anghyttrig" for "Corresponding Member?"