Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YSTORM.

(Bay of Biscay, Hydref 7fed a'r 8fed, 1877).

YM mrig y tal hwylbrenni gwichiai'r gwynt,
Tuchanai, ocheneidiai, fel mewn poen;
Mewn gwewyr oedd y tonnau ar eu hynt,
Ymsuddent i ymgodi'n wyn eu ffroen.
Y llong a ddawnsiai ar y llidiog lyn,
Ar allt erchyllaf angau llithrai'n chwai;
Y nefoedd bygddu gauai arni'n dyn,
Yn gwrlid angau arni gorffwys wnai.

Brycheuyn bach y llong ar awr fel hon,
Abwydyn gwan y capten dewr ei fryd;
Y morwr hen, a'i farf fel brig y don,
Sy'n ofal ac yn bryder drosto i gyd;
A ffurf ei anwyl briod draw yn nhref
Ymrithia fel mewn bywyd ger ei fron;
A'r syn ymfudwyr, hed ei galon ef
At rai adawodd ar ei aelwyd lon.

O, dyma chwthwm rolia'r llestr gu
Nes ar ei hochr y telgynga'n glau;
A chwthwm arall! Arglwydd, achub ni
O'r farwol safn am danom sydd yn cau;